Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 28 Ionawr 2019 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.45 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2019(1) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Siân Gwenllian AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Carys Evans, Pennaeth Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
Ann Beynon, Cynghorwr Annibynnol Aled Eirug Robert (Bob) Evans, Cynghorwr Annibynnol Ceri Hughes, Cynghorwr Annibynnol Sarah Pinch, Cynghorwr Annibynnol Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Llywydd Gynghorwyr Annibynnol newydd y Comisiwn, a fu'n bresennol am ran o'r cyfarfod, a Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes newydd y Cynulliad.
Diolchodd y Llywydd i'r ddau Gomisiynydd newydd am ymgymryd â phortffolios eu rhagflaenwyr, ac fe'u croesawyd i'w cyfarfod Comisiwn ffurfiol cyntaf.
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd.
2 Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2020-21
Dechreuodd y Comisiynwyr drafodaethau cychwynnol ynghylch eu dull gweithredu ar gyfer strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.
Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb a gofyniad y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2020-21 a'r ddwy flynedd ganlynol. Yn benodol, roedd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai angen trafodaeth bellach ar y cynnydd yng Nghyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
Cytunwyd hefyd ar ymateb i gais y Pwyllgor Cyllid am farn ar ganllawiau cyllidebol.
Bydd cyllideb '20 -21 y Comisiwn yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog ym mis Medi.
3 Gwelliannau o ran Diogelwch Amddiffynnol
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i wneud gwelliannau i'r diogelwch amddiffynnol mewn mannau mynediad cyhoeddus.
Y cynnig yw gwella diogelwch yr ystâd trwy ddarparu lefel briodol o ddiogelwch ac oedi ar y prif fynedfeydd cyhoeddus. Byddai'r cynigion yn addasu’r ddwy fynedfa.
Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn am farn eu grwpiau ar y newidiadau posibl.
Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur.
4 Paratoadau Comisiwn y Cynulliad ar gyfer gadael yr UE
Trafododd y Comisiynwyr bapur yn adrodd ar y cynnydd o ran ymdrin ag effaith gadael yr UE ar y Cynulliad. Roedd yn amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud i asesu'r goblygiadau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch y Cynulliad sy’n gysylltiedig â gadael yr UE. Roedd hefyd yn rhoi asesiad o'r goblygiadau i'n gwasanaethau corfforaethol a pha mor barod ydynt yn y maes hwn.
Gofynnodd y Comisiynwyr sut y mae agweddau penodol ar weithrediad y Comisiwn, er enghraifft gofynion Iechyd a Diogelwch, yn cael eu monitro o ran goblygiadau. Nodwyd y papur.
5 Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi sy'n ymwneud â Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull o ddeddfu ar drefniadau ariannol ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol, gan nodi ei fod yn destun barn Pwyllgor(au) a'r Cynulliad yng Nghyfnod 1.
Trafodwyd datblygiadau pellach yng nghynnwys arfaethedig y Bil, a thrafodwyd a nodwyd ffordd ymlaen y Llywydd, i gwblhau'r Bil cyn ei gyflwyno.
Nododd y Comisiynwyr hefyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chraffu ar y Bil a'r mater yn ymwneud â chymhwysedd; yr asesiad ariannol wedi'i ddiweddaru o'r Bil a'u rolau a’u cyfrifoldebau cytunedig mewn perthynas â rhaglen ddiwygio'r Cynulliad ac yn arbennig y cyfnod craffu ar gyfer Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).
6 Cynulliad Dinasyddion
Roedd y Comisiynwyr yn gefnogol i’r cynigion o sefydlu Cynulliad Dinasyddion sy'n gynrychioliadol yn ddemograffig fel rhan o raglen i nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn am farn eu grwpiau yr wythnos hon ar gynigion i gynnal Cynulliad Dinasyddion dros ddau ddiwrnod ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019.
Byddai'r ffocws ar ddau brif fater:
• y prif heriau sy'n wynebu Cymru yn ystod yr ugain mlynedd nesaf; a
• sut y gall democratiaeth Cymru, a'r Cynulliad yn benodol, ymateb yn well i'r heriau hynny h.y. gwella democratiaeth Cymru.
Cytunodd y Comisiynwyr fod swyddogion yn mynd ar drywydd sefydlu Cynulliad Dinasyddion yn ystod haf 2019, yn amodol ar yr adborth gan grwpiau.
7 Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am ddrafftio polisi yn ymwneud â gosod cofebion ar ystâd y Cynulliad. Trafodwyd proses lle byddai'r Comisiwn yn trafod cynigion ac yn gwneud penderfyniadau, a thrafodwyd canllawiau cysylltiedig i gynigwyr hefyd.
Gofynnodd y Comisiynwyr am addasiadau i'r polisi drafft, ac am iddo gael ei ddosbarthu er mwyn iddynt gytuno arno.
8 Papurau i’w nodi:
8.1 Ymgysylltiad rhyngwladol - adroddiad cynnydd
Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad i gyflwyno'r gwaith a nodir yn y Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad Rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad. Codwyd y potensial i weithio'n agosach gyda Chwnsleriaid Anrhydeddus.
8.2 Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Cynulliad ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) - Cylch Gorchwyl
Darparwyd i'r Aelodau ddiweddariad o gylch gorchwyl y Pwyllgor Taliadau, gan ehangu ei ffocws o'r hyn yr oedd yn canolbwyntio arno'n flaenorol. Nodwyd hyn. Roedd hyn yn adlewyrchu awydd i wneud defnydd da o'r ystod arbenigedd a ddaw gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Nodwyd penodiad Cadeiryddion REWAC ac ACARAC:
· Cadeirydd ACARAC - Bob Evans
· Cadeirydd REWAC - Sarah Pinch
8.3 Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nodwyd y diweddariad arferol.
8.4 Cofnodion cyfarfod ACARAC ym mis Tachwedd
Nodwyd cofnodion y cyfarfod ACARAC.
9 Unrhyw fater arall
Gwnaed y Comisiynwyr yn ymwybodol fod argymhellion wedi'u gwneud gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Safonau iddynt eu hystyried - ac y byddai ymatebion drafft yn cael eu dosbarthu iddynt eu hystyried cyn bo hir.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cefnogi cynnig i enwebu Bob Evans fel un o gynrychiolwyr y Comisiwn Pensiynau ACau, a phenodiad Cyfarwyddwr Newydd Busnes y Cynulliad.